Skip to content

Noson Gymraeg arbennig, ychwanegol: CYNEFIN yn Theatr y Met, Bury!

Photo of Simon Chandler
Hosted By
Simon C.
Noson Gymraeg arbennig, ychwanegol: CYNEFIN yn Theatr y Met, Bury!

Details

Fe fydd yna noson Gymraeg arbennig, ychwanegol ym mis Tachwedd 2024: sef gìg gan CYNEFIN gyda chefnogaeth gan AWEN BLANDFORD yn Theatr y Met yn Bury (ger Manceinion). Bydd y gig yn dechrau am 7.30yh, ond ry'n ni'n awgrymu i bawb gyrraedd erbyn 7.00yh er mwyn i ni allu cael sgwrs yn gyntaf (er y bydd modd sgwrsio yn ystod yr egwyl hefyd). Ry'n ni'n awgrymu hefyd i bawb brynu'u tocynnau (sy'n costio £14 yr un) ymlaen llaw, naill ai ar-lein neu o'r swyddfa docynnau. Unwaith eto, dyma gyfle gwych ac unigryw i gael profiad bythgofiadwy, i ddangos cryfder y Gymraeg yn ardal Manceinion ac, wrth gwrs, i wneud i artistiaid o Gymru deimlo'n gartrefol iawn! Ry'n ni'n ceisio llenwi'r lleoliad gyda siaradwyr Cymraeg a'i droi'n rhan bellennig o Gymru am y noson! Felly... dewch yn llu!

Dyma'r ddolen i'r gìg a fydd yn eich galluogi chi i brynu tocynnau: https://themet.org.uk/event/cynefin/

Photo of Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion group
Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion
See more events
The Met
Market Street · Bury
Google map of the user's next upcoming event's location
FREE
80 spots left