What we’re about
🏳️🌈🐕 Bringing the LGBTQ+ community together across Cardiff and the Vale of Glamorgan through their shared love of dogs. 🏳️⚧️🐩
Upcoming events (4+)
See all- Rainbow Pooch in the Park / Rainbow Pooch yn y ParcCosmeston Lakes, near Penarth, Penarth
# About this event
Come on our social dog walk and celebrate the heartwarming bond between our LGBTQIA+ community and our beloved four-legged companions.
Looking for a fantastic way to celebrate the unique bond between our LGBTQIA+ community and our furry companions? Whether you have a loyal four-legged friend or simply want to immerse yourself in the wonderful world of canine camaraderie, this event is tailor-made for you!
How it works?
Held on the third Sunday of every month, you are welcome to join us with or without a dog. To keep everyone comfortable and safe, we only accept a maximum of 6 dogs per walk and you will need to book a ticket for each dog that you intend to bring.The first part of the walk is on lead with well-adjusted dogs being invited to be off-lead thereafter at the discretion of the Event Coordinator. The route is generally flat with some parts moving away from designated pathways. Please wear appropriate footwear for muddy terrain.
Booking - Eventbrite
Dogs attend for FREE but we invite a minimum donation of £1 per person with the promise a lot of doggie treats in return!
We've also established a Discretionary Fund enabling individuals facing financial barriers to attend for FREE. Please select 'I want to access the Discretionary Fund' at point of sale.
Whether it's a humble pound or a generous sum, your support is invaluable to us. Your contribution covers essential costs and supports the continuation of our work in the community.
Please note: You can book on behalf of a maximum of 3 dogs and 2 people before a new booking is needed.
This event is only open to individuals aged 18 years plus who identify as LGBTQIA+
This event is funded by The National Lottery Community Fund
This event is devliered in the English language***
Dewch ar ein taith gerdded gymdeithasol gyda chŵn i ddathlu'r berthynas agos rhwng y gymuned LHDTCRhA + a'n ffrindiau blewog o fyd y cŵn.
Rainbow Pooch yn y Parc
Dewch ar ein taith gerdded gymdeithasol gyda chŵn i ddathlu'r berthynas agos rhwng y gymuned LHDTCRhA + a'n ffrindiau blewog o fyd y cŵn.
Ydych chi’n chwilio am ffordd wych o ddathlu'r cysylltiad unigryw rhwng y gymuned LHDTCRhA + a'n ffrindiau blewog annwyl? Boed yn berchen ar gi neu beidio ond eisiau bod yn rhan o’r byd sy’n dathlu cyfeillgarwch cŵn, mae'r digwyddiad hwn yn berffaith ar eich cyfer chi!Beth os bydd hi'n bwrw glaw?
Rydyn ni’n cerdded ym mhob tywydd ond rydyn ni hefyd am sicrhau eich diogelwch. Os caiff y digwyddiad ei ganslo oherwydd tywydd gwael, byddwn yn rhoi gwybod yn ddim hwyrach nag awr cyn y digwyddiad.Mae fy nghi yn cael ei hyfforddi ar hyn o bryd. Ydy e’n gallu dod?
Dim ond cŵn sydd wedi’u cymdeithasu'n dda sy'n cael dod ar ein teithiau cerdded. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn llofnodi ymwadiad sy'n nodi'u cyfrifoldeb llawn drostyn nhw eu hunain a’u cŵn. Mae Swyddog Arwain Teithiau Cerdded hefyd yn asesu addasrwydd cŵn wrth gyrraedd. Os hoffech i’ch hyfforddwr ddod hefyd, anfonwch e-bost aton ni ymlaen llaw i gael rhagor o wybodaeth.Mae fy nghi ar restr bridiau cŵn gwaharddedig. Ydy e’n gallu dod?
Ni all y bridiau gwaharddedig canlynol fod yn bresennol oni bai bod ganddynt Dystysgrif Eithrio wedi’i chyhoeddi gan y llys: Daeargwn Pit Bull, Tosa Japaneaidd, Dogo Argentino, Fila Brasileiro, ac XL Bully. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://www.gov.uk/control-dog-public/banned-dogsOes angen rhwymo safn fy nghi?
Gall y bridiau canlynol fod yn bresennol ond rhaid rhoi mwsel arnyn nhw, a rhaid eu bod wedi eu sbaddu a bod microsglodyn wedi’i osod ynddyn nhw: Daeargwn Bull, Doberman Pinscher, Cŵn Bugeilio Almaenig (a bridiau cysylltiedig), Rottweiler, Mastiffiaid gan gynnwys y Bull Mastiff, Cane Corso, a Dogue De Bordeaux. Hefyd, croesiadau o unrhyw un neu rai o'r bridiau hyn.Dydyn ni ddim am i arian rwystro pobl rhag mynychu ein digwyddiadau. Felly, mae gennym gronfa gyfyngedig ddisgresiynol ar gyfer unigolion sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol ac na fydden nhw’n gallu ymuno â ni heb gymorth ychwanegol. I wneud ymholiad, anfonwch e-bost aton ni ar [email protected]. Asesir pob cais yn unigol ac maent yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.
- Rainbow Pooch in the Cafe / Rainbow Pooch yn y CaffiRhostio Coffee Roasters, Cardiff
Calling all LGBTQIA+ dog enthusiasts to join us in creating delightful memories with our furry friends. Indulge in a warm and inviting atmosphere where the aroma of freshly brewed coffee mingles with the excitement of canine camaraderie.
Our cozy spot transforms into a haven for dog lovers, fostering connections, and celebrating the bond we share with our four-legged companions. Sip on your favourite brew while being surrounded by a sea of wagging tails. Experience the charm of a relaxed and welcoming environment, where dogs and their human companions come together to share stories, make new friends, and immerse themselves in a community built on a love for coffee and canines.
Booking - Eventbrite
Dogs attend for FREE but we invite a minimum donation of £1 per person with the promise a lot of doggie treats in return!
We've also established a Discretionary Fund enabling individuals facing financial barriers to attend for FREE. Please select 'I want to access the Discretionary Fund' at point of sale.
Whether it's a humble pound or a generous sum, your support is invaluable to us. Your contribution covers essential costs and supports the continuation of our work in the community.
Please note: You can book on behalf of a maximum of 3 dogs and 2 people before a new booking is needed.
This event is only open to individuals aged 18 years plus who identify as LGBTQIA+
This event is funded by The National Lottery Community Fund
This event is devliered in the English language
___________________________________________________________________
Yn galw ar bawb o’r gymuned LHDTCRhA+ sy’n dwlu ar gŵn i ddod aton ni i greu atgofion hyfryd gyda'n ffrindiau pedair coes blewog. Mae yma awyrgylch cynnes a chroesawgar lle mae arogl coffi ffres yn cyfuno’n berffaith gyda’r cyffro a ddaw o fwynhau amser gyda’n cŵn. Mae ein adeilad clyd yn troi’n hafan i bobl sy'n caru cŵn, yn creu cysylltiadau, ac yn dathlu'r cwlwm rhyngon ni a’n cyfeillion pedair coes. Dewch â'ch tennyn, eich ci, a'ch chwant am goffi.
Bydd ein cydlynydd digwyddiadau, Eleanor, yn cwrdd â chi y tu mewn i'r siop goffi a bydd yno i'ch croesawu'n gynnes. Boed am gael sgwrs, mwynhau cwmni’r cŵn, neu ymuno â ni mewn gêm fwrdd ar thema cŵn, bydd y sgwrs yn llifo a byddwch yn teimlo'n gartrefol mewn dim o beth.
Dydyn ni ddim am i arian rwystro pobl rhag mynychu ein digwyddiadau. Felly, mae gennym gronfa gyfyngedig ddisgresiynol ar gyfer unigolion sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol ac na fydden nhw’n gallu ymuno â ni heb gymorth ychwanegol. I wneud ymholiad, anfonwch e-bost aton ni ar [email protected]. Asesir pob cais yn unigol ac maent yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.
Mae'n orfodol i fridiau cŵn sydd wedi'u gwahardd gael eu safn wedi’i rwymo bob amser, a’u bob ar dennyn bob amser. Os nad yw brîd eich ci wedi'i restru, nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i chi osod mwsl arno. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny os yw eich ci wedi ymateb yn ymosodol tuag at gŵn a/neu bobl. - Pat & Chat / Mwytho a SgwrsioLink visible for attendees
Looking for a fun and friendly way to connect with the LGBTQIA+ community? Love dogs? Got burning dog-related questions? Here's your chance to get expert advice and learn something new along the way.
What are Pat & Chats?
Pat & Chats are all about celebrating our shared love for dogs while promoting well-being and forging new connections within the LGBTQIA+ community. These informal and inclusive gatherings are designed with you in mind! Each Pat & Chat features a special Q & A session with dog expert and trainer Hannah Molloy. You choose how you participate, whether it's with your camera and microphone on or off. Your comfort is our priority.Why Pat & Chats?
We're all about building connections and fostering a sense of belonging, and we know that dogs help us to do that. We know that they also have a positive impact on our mental and emotional health and want to create spaces where that is celebrated. So, whether you own a dog or not, we're here to hear your stories and experiences.
Our events are our way of saying #thankyoudogs.You're Invited!
Don't miss out on these fantastic events that bring the LGBTQIA+ community together. Join our Pat & Chats and let's celebrate our love for dogs, well-being, and unity.
We can't wait to see you there!Booking - Eventbrite
We invite a minimum donation of £1 per person.
We've also established a Discretionary Fund enabling individuals facing financial barriers to attend for FREE. Please select 'I want to access the Discretionary Fund' at point of sale.
Whether it's a humble pound or a generous sum, your support is invaluable to us. Your contribution covers essential costs and supports the continuation of our work in the community.
Please note: You can book on behalf of a maximum of 2 people before a new booking is needed.
This event is only open to individuals aged 18 years plus who identify as LGBTQIA+
This event is funded by The National Lottery Community Fund
This event is delivered in the English language-------------------------------
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol hyfryd â thema cŵn, sydd â’r nod o ddod â phobl LHDTCRhA+ at ei gilydd mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar.
Ydych chi’n chwilio am ffordd hwyliog a chyfeillgar o ymgysylltu â'r gymuned LHDTCRHA +? Yn dwlu ar gŵn? Oes gyda chi gwestiynau'n ymwneud â chŵn? Dyma’ch cyfle i gael cyngor arbenigol a dysgu rhywbeth newydd tra’ch bod chi wrthi.Beth yw Mwytho a Sgwrsio/Pat & Chat?
Mae Mwytho a Sgwrsio/Pat and Chat yn ffordd o ddathlu ein perthynas â chŵn ac o roi hwb i’n lles a chreu cysylltiadau newydd yn y gymuned LHDTCRHA+. Mae'r cyfarfodydd anffurfiol a chynhwysol hyn wedi'u cynllunio’n unswydd ar eich cyfer chi! Mae pob cyfarfod Mwytho a Sgwrsio/Pat and Chat yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwr gwadd. Chi sy’n dewis sut i gymryd rhan, boed hynny gyda'ch camera a'ch meicroffon ar waith neu beidio. Sicrhau eich bod chi’n gysurus yw ein blaenoriaeth.Pam Mwytho a Sgwrsio/Pat & Chat?
Ein nod yw creu cysylltiadau a meithrin ymdeimlad o berthyn, ac rydyn ni’n gwybod bod cŵn yn ein helpu i wneud hynny. Rydyn ni hefyd yn gwybod eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl ac emosiynol. Creu mannau lle mae hynny'n cael ei ddathlu yw ein nod. Felly, boed yn berchen ar gi ai peidio, rydyn ni yma i glywed eich straeon a'ch profiadau chi. Mae ein digwyddiadau ni’n ffordd o ddweud #DiolchIrCŵn.Manteisiwch ar y digwyddiadau gwych a ddaw â'r gymuned LHDTCRHA + at ei gilydd. Ymunwch â'n sesiynau Mwytho a Sgwrsio/Pat & Chat i ddathlu ein cariad at gŵn, ein lles a’n hundod fel cymuned.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!Dim ond i unigolion 18 oed a hŷn sy'n uniaethu’n LHDTCRhA + y mae’r digwyddiad hwn yn agored.
Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond gwerthfawrogir rhoddion.
Ariennir y digwyddiad hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. - Rainbow Pooch Ramble / Crwydro gyda’r Cŵn a RainbowDare Valley Country Park, Rhondda Cynon Taff
Join us for the Rainbow Pooch Ramble and celebrate the beautiful bond between our LGBTQIA+ community and our furry friends! Whether you're a proud pet parent or simply eager to revel in the joy of canine camaraderie, this event is tailor-made just for you! Enjoy the simple pleasure of a leisurely walk with our faithful canine companions – because there's nothing quite like the joy of a wagging tail!
For more information on the walk location visit:
Dare Valley Country ParkEvent Details:
You're welcome to join us with or without a dog.
Due to safety and comfort reasons, we can only accommodate a maximum of 6 dogs per walk.
The walk will commence on lead, with well-adjusted dogs having the opportunity to be off-lead later at the discretion of the event coordinator.
The route may include some muddy and uneven terrain, so please wear suitable footwear.
Parking is free of charge.
Our event coordinator will meet you for registration at 1pm.
The walk begins at 1pm. Although the event ends at 4pm, the walk duration may vary depending on the route.Booking - Eventbrite
Dogs attend for FREE but we invite a minimum donation of £1 per person with the promise a lot of doggie treats in return!
We've also established a Discretionary Fund enabling individuals facing financial barriers to attend for FREE. Please select 'I want to access the Discretionary Fund' at point of sale.
Whether it's a humble pound or a generous sum, your support is invaluable to us. Your contribution covers essential costs and supports the continuation of our work in the community.
Please note: You can book on behalf of a maximum of 3 dogs and 2 people before a new booking is needed.
This event is only open to individuals aged 18 years plus who identify as LGBTQIA+
This event is funded by The National Lottery Community Fund
This event is devliered in the English language***
Ymunwch â ni i Grwydro gyda’r Cŵn a Rainbow Pooch i ddathlu’r berthynas hyfryd rhwng ein cymuned LHDTCRhA + a'n cyfeillion pedair coes! Boed yn rhiant balch i anifail anwes neu ddim ond wrth eich bodd yng nghwmni cŵn, mae'r digwyddiad hwn yn ddelfrydol ar eich cyfer chi! Mwynhewch bleser syml cerdded yn hamddenol gyda'n cymdeithion ffyddlon – does dim byd gwell na’r llawenydd o weld ci hapus yn siglo’i gynffon!
Man Cyfarfod:
Y mynediad i faes parcio Llwybr Darganfod Cerfluniau Fforest Fawr.Cyfarwyddiadau i Faes Parcio Fforest Fawr:
O Gaerffili, dilynwch yr arwyddion i’r A470 tuag at Gaerdydd.
Ewch ar hyd yr A470 am ryw filltir a hanner.
Gadewch drwy’r allanfa sydd ag arwydd i Gastell Coch.
Dilynwch yr arwyddion i Gastell Coch, ac ewch heibio i fynedfa'r castell.
Bydd maes parcio Fforest Fawr ar y chwith ar ôl ryw filltir a chwarter.I gael rhagor o wybodaeth am leoliad y daith gerdded, ewch i:
Cyfoeth Naturiol CymruManylion y Digwyddiad:
Mae croeso i chi ymuno â ni gyda neu heb gi.
Oherwydd rhesymau diogelwch a chysur, dim ond hyd at 6 o gŵn y gallwn eu croesawu ar bob taith.
Bydd y daith yn cychwyn gyda’r cŵn ar dennyn. Caiff cŵn sy’n ymddwyn yn dda gyfle i fod oddi ar eu tennyn yn nes ymlaen, yn ôl disgresiwn cydlynydd y digwyddiad.
Gallai’r llwybr gynnwys tir mwdlyd ac anwastad, felly gwisgwch esgidiau addas.
Gallwch barcio am ddim.
Mae'r daith yn dechrau am 1pm. Er bod y digwyddiad yn dod i ben am 4pm, gall hyd y daith amrywio yn dibynnu ar y llwybr.Sylwer:
Dim ond gyfer unigolion 18 oed a hŷn sy'n uniaethu fel LHDTCRhA+ y mae’r digwyddiad.
Mae'r digwyddiad hwn yn bosibl drwy gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.Dydyn ni ddim am i arian rwystro pobl rhag mynychu ein digwyddiadau. Felly, mae gennym gronfa gyfyngedig ddisgresiynol ar gyfer unigolion sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol ac na fydden nhw’n gallu ymuno â ni heb gymorth ychwanegol. I wneud ymholiad, anfonwch e-bost aton ni ar [email protected]. Asesir pob cais yn unigol ac maent yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.